Digwyddiad Ymchwil Myfyrwyr cyn y Gynhadledd
Gwahoddir ceisiadau gan fyfyrwyr ôl-radd i gyflwyno papur neu boster yn y digwyddiad ymchwil i fyfyrwyr cyn y gynhadledd.
Mae'r fforwm penodol hwn i fyfyrwyr yn rhoi cyfle i ôl-raddedigion i rannu eu hymchwil gyda chyfoedion ac academyddion mewn awyrgylch gefnogol gan annog myfyrwyr i ffurfio cysylltiadau ymchwil newydd.
Dylai cyflwyniadau fod wedi eu seilio ar ymchwil gyfredol. Caiff cyflwyniadau papur a dderbynnir 15 munud i gyflwyno eu gwaith. Caiff cyflwyniadau poster eu harddangos yn ystod y sesiwn cyflwyniadau poster ddydd Gwener 10 Mehefin, 2016.
Rhoddir nifer o wobrau i'r cyflwyniadau gorau a chyflwynir y rhain i'r enillwyr yn ystod y Ddarlith DYSGA:Bangor ar y nos Wener.
Mae’r galw am bapurau wedi cau.