Cyfres Darlithoedd Datblygu Ymchwil, Sgiliau a Gwybodaeth mewn Addysg: Bangor (DYSGA: Bangor)
Ar 10 Mehefin 2016 byddwn yn croesawu’r Athro Ofelia García i roi’r sgwrs agoriadol yng Nghyfres Darlithoedd Bangor ar Hyrwyddo Gwybodaeth mewn Ymchwil Addysg.
Mae'r gyfres hon o ddarlithoedd wedi ei sefydlu i anrhydeddu cyfraniad gydol oes yr Athro Colin Baker at addysg ddwyieithog a dwyieithrwydd. Fel aelod uchel ei barch o staff yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor, sefydlodd Colin ei hun fel arbenigwr yn rhyngwladol am ei ymchwil a'i gyfraniad at ddwyieithrwydd, ac mae'n bleser mawr gennym i ddathlu ei waith yn y gyfres hon.
Nod y gyfres hon o ddarlithoedd yw pwyso ar arbenigedd o ystod o wledydd, lleoliadau a chyd-destunau ieithyddol i rannu ymarfer gorau mewn Addysg. Yn y gyntaf o’r darlithoedd hyn, rydym yn falch iawn o groesawu’r Athro Ofelia García, arbenigwraig enwog ym maes addysg ddwyieithog, fydd yn myfyrio ar ddylanwad yr Athro Colin Baker yng nghyd-destun ei gwaith ei hun.
Cyn y ddarlith hon, bydd y Gynhadledd Ryngwladol ar Ddwyieithrwydd mewn Addysg yn cynnal ei seremoni i wobrwyo ymchwil myfyrwyr. Bydd myfyrwyr ôl-radd yn cyflwyno eu gwaith mewn cyflwyniadau papur a phoster i gystadlu am y gwobrau am waith ymchwil gorau myfyrwyr.
Ar ôl y ddarlith cynhelir cinio’r gynhadledd ac fe’ch gwahoddir i ddathlu lansio’r digwyddiad hwn gyda ni.